A Message subsequent to the Third Edition of First Rising

Dear Brethren and Companions,
We welcome the news, communicated in yesterday’s edition of First Rising, that the current suspension of Masonic activity in England and Wales will not be extended beyond the 17th July 2020. You will all be aware that due to the current legal and advisory position in Wales, our Lodges and Chapters remain unable to meet; and we look forward to when the Welsh Government will permit such a change. The Provincial Offices will make an announcement once Welsh Government legislation changes to permit our meetings to recommence.
As we look forward to the resumption of Masonic activity in Wales, we trust that Lodges and Chapters, as well as Masonic Centres, will use this opportunity to prepare for the time when we can meet again, safely. You will have seen that the First Rising included details of certain adjustments to the ceremonial work, and further such guidance will be issued via the Provincial Offices in due course. It is currently not possible to conduct Third Degree and Exaltation ceremonies.
Brethren and Companions, we miss you and wish you and your families a very happy summer recess and look forward to being in your company again, sooner rather than later.


Annwyl Frodyr a Chymdeithion.
Yr ydym yn croesawu’r newyddion a gyhoeddwyd yn rhifyn ddoe o First Rising, na ymestynnir yr ataliad cyfredol o weithgareddau Saeryddol yng Nghymru a Lloegr y tu hwnt i Orffennaf 17eg. Mi fyddwch i gyd yn ymwybodol, oherwydd y sefyllfa gyfreithiol a chynghorol yng Nghymru, y bydd ein Cyfrinfeydd a’n Siapteri yn dal i fethu â chwrdd; ac yr ydym yn edrych ymlaen at yr amser y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu’r fath newid. Bydd y Swyddfeydd Taleithiol yn gwneud cyhoeddiad unwaith y bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn newid i ganiatáu ein cyfarfodydd i ail-gychwyn.
Wrth i ni edrych ymlaen at ailgychwyn gweithgareddau Saeryddol yng Nghymru, hyderwn y bydd Cyfrinfeydd a Siapteri, ynghyd â Chanolfannau Saeryddol yn gwneud defnydd o’r cyfle hwn i baratoi ar gyfer yr amser pan fyddwn yn gallu cwrdd eto, yn ddiogel. Mi fyddwch wedi gweld fod y First Rising wedi cynnwys manylion am rai addasiadau i’r gwaith seremonïol, a chyhoeddir cyfarwyddyd pellach o’r fath gan Swyddfeydd Taleithiol gyda hyn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cynnal seremonïau’r Drydedd Radd na’r Dyrchafiad.
Frodyr a Chymdeithion, yr ydym yn gweld eich eisiau chi, ac yr ydym yn dymuno egwyl hapus iawn i chi a’ch teuluoedd dros yr haf ac edrychwn ymlaen at fod yn eich cwmni eto, yn fuan, nid yn hwyrach.